A ydych yn ymateb dros eich hun neu ar ran rhywun arall?

Gallwch dal ofyn i aelod o'ch teulu neu unigolyn rydych yn ymddiried ynddynt i'ch helpu i ddeall neu ymateb.
Gallwch ymateb ar ran rhywun arall os oes ganddynt anabledd neu nam sy'n golygu na allant ymateb dros eu hunain. Neu gallwch ymateb ar ran unigolyn sydd i ffwrdd, neu unigolyn sydd wedi marw.
Beth ddylwn ei wneud os oes angen cymorth arnaf i ymateb?
Gallwch ofyn i aelod o'ch teulu, ffrind neu ofalydd i'ch helpu. Gallant ymateb ar eich rhan neu'ch cynorthwyo i ymateb dros eich hun. Mae'n bosib y gallech gael cymorth gyda defnyddio cyfrifiadur yn eich llyfrgell leol. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch ein ffonio ar:
Rhif ffôn: 0300 456 1024
Llinell Gymraeg: 0300 303 5173